Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
14 Chwefror 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13220
------
Cynhalwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1, 2 a 4-9 ac 11. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 10. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gweledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.17
3 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth
Dechreuodd yr eitem am 14.26
Am 15.46 cododd Alun Davies bwynt o drefn yn ymwneud â’r cyfle i Aelodau o’r Senedd graffu ar waith Aelodau Dynodedig o dan y Cytundeb Cydweithio yn ystod trafodion y Senedd. Nododd y Dirprwy Lywydd y byddai hyn yn cael ei ystyried.
Am 15.47 cododd Janet Finch-Saunders bwynt o drefn mewn cysylltiad â chywirdeb dau bwynt a wnaeth y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ei ymateb cynnar i’w chwestiynau. Nododd y Dirprwy Lywydd y byddai’r Dirprwy Weinidog yn adolygu’r trawsgrifiad ac yn cywiro unrhyw anghywirdebau pe bai angen.
4 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 15.49
5 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Dysgu Digidol mewn Addysg Bellach
Dechreuodd yr eitem am 16.14
6 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Yr Ymateb Dyngarol i Wcráin
Dechreuodd yr eitem am 16.34
Am 17.03, rhoddodd y Dirprwy Lywydd ei farn ar y defnydd o’r gair ‘insane’ gan un Aelod yn ystod eitem 3 yn gynharach heddiw. Er ei fod yn cyfeirio at benderfyniad gan y llywodraeth, ac nid at unigolyn, datganodd bod yr iaith a ddefnyddiwyd yn amhriodol a gwahoddodd yr Aelod i fyfyrio arno a sicrhau bod cyfraniadau yn y dyfodol yn barchus tuag at bawb.
7 Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023 - TYNNWYD YN ÔL
Tynnwyd yr eitem hon yn ôl
8 Dadl: Setliad yr Heddlu 2023-24
Dechreuodd yr eitem am 17.04
NDM8201 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2022-23 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Cyfnod pleidleisio
Nid oedd Cyfnod Pleidleisio
Daeth y cyfarfod i ben am 17.27
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 15 Chwefror 2023